SL(5)035 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) 2016

Cefndir a Phwrpas

Mae adran 79(2)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddarparu bod personau penodol i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu mai’r personau sydd i gael eu trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol yw’r rhai a ddisgrifir ym mharagraffau (a) i (i) o adran 79(3) o Ddeddf 2016. Mae’r rheini yn cynnwys personau sydd wedi eu dynodi’n unigolion cyfrifol gan ddarparwyr gwasanaethau; personau sy’n ymgymryd â gwaith at ddibenion swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol (neu â’r ddarpariaeth o wasanaethau sy’n debyg i’r rheini a ddarperir wrth arfer y swyddogaethau hynny); personau sy’n ymgymryd â darparu gofal a chymorth personol nad ydynt wedi eu rheoleiddio i unrhyw berson; personau sydd wedi eu cofrestru fel gwarchodwyr plant neu fel darparwyr gofal dydd i blant; personau sy’n rheoli ymgymeriad neu sydd wedi eu cyflogi mewn ymgymeriad sy’n cynnal busnes cyflogi neu asiantaeth gyflogi mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth personol i unrhyw berson yng Nghymru; myfyrwyr gwaith cymdeithasol penodol ac arolygwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol penodedig.

Gweithdrefn

Cadarnhaol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): bod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae’r Rheoliadau’n cael eu gwneud o dan adrannau o Ddeddf 2016 sydd ddim mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym erbyn 3 Ebrill 2017 (hynny yw, y dyddiad y mae’r Rheoliadau’n dod i rym). Er nad yw’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud y Rheoliadau trwy ddibynnu ar adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 sydd yn galluogi rhai pwerau i gael eu gweithredu cyn i’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 ddod i rym.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016